Mae’r trydydd sector yn dibynnu ar gael staff cyflogedig a gwirfoddolwyr sydd â’r wybodaeth angenrheidiol i reoli eu mudiad a gwasanaethu eu cymuned. Mae hyn yn creu’r angen i sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf, eich bod yn ymwybodol o’r datblygiadau cyfredol a bod gennych chi wybodaeth weithiol am amrediad o bynciau. Mae galluogi a chefnogi pobl i wella eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn eu grymuso i ddefnyddio’u sgiliau a’u doniau i ddatblygu grwpiau cymunedol newydd a chryfhau’r rheini sydd eisoes yn bodoli.

Ni fu gwybodaeth a dysgu erioed mor bwysig mewn byd sy’n newid mor gyflym. Ein nod fel Cefnogi Trydydd Sector Cymru yw cynnig amrywiaeth o adnoddau dwyieithog am ddim o safon uchel sy’n hawdd cael gafael arnyn nhw. Bydd y rhain yn ymwneud â phynciau sydd o werth i’r sector ac yn berthnasol iddo, y gallwch chi eu defnyddio pryd bynnag sydd eu hangen.
Caiff ein hadnoddau eu llunio gan arbenigwyr sy’n ymroddedig i werthoedd y trydydd sector yng Nghymru. Os oes gennych chi ofynion mynediad penodol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at training@wcva.cymru ac fe wnawn ni weithio gyda chi i wneud yn siŵr bod ein hadnoddau mor hygyrch â phosibl.
Gallwch chi hidlo ein hadnoddau fesul piler (prif bwnc), eu gosod yn nhrefn yr wyddor neu eu trefnu yn ôl pryd gawsant eu hychwanegu at y wefan. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth penodol, defnyddiwch y cyfleuster chwilio cyffredinol ar frig y dudalen i chwilio yn ôl geiriau allweddol a bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Yn seiliedig ar eich diddordebau

Gwirfoddoli y tu Hwnt i’r Pandemig
Nod y canllaw diwygiedig hwn yw helpu mudiadau i ailsefydlu gwirfoddoli, wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws ddod i ben yng Nghymru, gan gydnabod bod dal angen mynd ati i wneud hyn mewn modd gofalus.

Egwyddorion Cenedlaethol ar Gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru
Mae’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru yn grŵp o ddeng egwyddor ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau.

Croesawu Gwirfoddolwyr sy’n Geiswyr Lloches
Gall unigolion sy’n geiswyr lloches neu’n ffoaduriaid fod yn wirfoddolwyr rhagorol.