Cael mwy o bobl i wirfoddoli yw’r gyfrinach i lesiant unigolion, cymunedau a Chymru fel cenedl. Nod Cefnogi Trydydd Sector Cymru yw helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwirfoddoli a helpu mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr i recriwtio a chefnogi eu gwirfoddolwyr.
Yn yr adran hon, byddwch chi’n dod o hyd i ganllawiau i’ch helpu i ddatblygu eich strategaeth gwirfoddolwyr, polisïau sy’n benodol i wirfoddolwyr ac adnoddau i gefnogi ymgysylltiad â gwirfoddolwyr.
Os ydych chi’n fudiad sy’n gobeithio denu mwy o wirfoddolwyr neu’n fudiad sydd eisiau gwella’r ffordd rydych chi’n rheoli gwirfoddolwyr, mae’r adnoddau hyn yma i’ch helpu.
Yn seiliedig ar eich diddordebau

Croesawu Gwirfoddolwyr sy’n Geiswyr Lloches
Gall unigolion sy’n geiswyr lloches neu’n ffoaduriaid fod yn wirfoddolwyr rhagorol.

Gwirfoddoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Safonau ac Adnoddau Dysgu
Gall y Safonau fod yn ddefnyddiol; Fel man cychwyn ar gyfer cynllunio sesiynau cynefino a hyfforddiant i wirfoddolwyr I wella cysondeb a safon sesiynau cynefino…

Gwirfoddoli y tu Hwnt i’r Pandemig
Nod y canllaw diwygiedig hwn yw helpu mudiadau i ailsefydlu gwirfoddoli, wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws ddod i ben yng Nghymru, gan gydnabod bod dal angen mynd ati i wneud hyn mewn modd gofalus.