Amdanom ni

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Rydym yn gweithio gyda dinasyddion, gwirfoddolwyr a grwpiau trydydd sector i ganfod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac i weithredu yn unol â hynny. Mae ein gweithgareddau craidd i gryfhau’r trydydd sector a gwirfoddoli yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Galluogi a chefnogi
  • Bod yn gatalydd
  • Ymgysylltu a dylanwadu

I gyflawni nod y rhwydwaith, rydym yn cydweithio â phartneriaid allweddol eraill yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus, byd busnes, ymchwil a chyllidwyr.

Mae gennym bedair colofn o weithgaredd sy’n llunio’r hyn rydym yn ei gynnig, dyma’r pedair colofn:

  • Gwirfoddoli
  • Llywodraethu da
  • Cyllid cynaliadwy
  • Ymgysylltu a dylanwadu

“Mae’r trydydd sector wedi bod yn ganolog erioed i newidiadau positif a gyda’r hinsawdd anodd sydd ohoni, mae rolau ein mudiadau amrywiol yn awr yn bwysicach nag erioed. Rhaid inni sefyll dros eraill a helpu ein gilydd i barhau i gyflawni.”

@CGGCCymru #gofod3

Jane Hutt, Deputy Minister and Chief Whip

Mae ein gwaith yn canolbwyntio’n fras ar y themâu cyffredin canlynol:

  • Gwybodaeth a chyngor
  • Dysgu a datblygu
  • Rhwydweithio a chyfathrebu
  • Siapio, dylanwadu ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chydnerthedd y sector
  • Codi proffil y sector

Pam dewis yr Hwb Gwybodaeth?

Yn yr Hwb Gwybodaeth, gallwch ddysgu a chysylltu ag eraill fel chi ar draws y trydydd sector. Mae’r Hwb Gwybodaeth yn cynnig ystod o adnoddau dysgu a gwybodaeth ddigidol i’ch helpu chi i:

  • Gadw i’r funud â’r safbwyntiau cyfredol
  • Gwella eich sgiliau a’ch arbenigedd
  • Cysylltu â phobl fel chi ac arbenigwyr i rwydweithio gyda nhw 
  • Rhannu’r hyn sy’n gweithio gydag eraill 
  • Rhwydweithio a chydweithio â chymheiriaid 

Cofrestrwch heddiw am ddim.


Sut allwn ni helpu?

Chwilio am blatfformau digidol TSSW eraill

Funding Wales Logo

Cyllido Cymru

Gallwch ganfod cyllid ar gyfer eich elusen, eich grŵp cymunedol neu eich menter gymdeithasol drwy ddefnyddio’r porwr ar-lein, Cyllido Cymru, yn rhad ac am ddim.

Cyllido Cymru
Volunteering Wales Logo

Gwirfoddoli Cymru

Mae Gwirfoddoli Cymru yn lwyfan digidol ar gyfer gwirfoddoli gan. Mae’r llwyfan yn cynnal canoedd o gyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru mewn un lle, yn ei gwneud yn hawdd I bobl ddod o hyd a recriwtio gwirfoddolwyr – neu cychwyn ar eich taith gwirfoddoli eich hunain.

Gwirfoddoli Cymru
infoengine Logo

infoengine

infoengine yw’r cyfeirlyfr ar gyfer gwasanaethau trydydd sector yng Nghymru.

infoengine