Gwybodaeth, arweiniad a chymorth datblygu

Mae’r trydydd sector yn dibynnu ar gael staff a delir a gwirfoddolwyr sydd â’r sgiliau cywir a’r hyder i lwyddo. Mae gan ddysgu a datblygu rôl bwysig i’w chwarae o ran gwneud ein mudiadau trydydd sector yn fwy gwydn a’u rhoi mewn gwell lle i wasanaethu eu cymunedau.  Mae’n grymuso pobl leol i wneud newidiadau yn eu cymunedau. Mae’n ysgogi gweithrediad a balchder ac yn galluogi pobl i ddefnyddio’u sgiliau a’u doniau i ddatblygu grwpiau cymunedol newydd a chryfhau’r rheini sydd eisoes yn bodoli.

Ni fu dysgu a datblygu erioed mor bwysig mewn byd sy’n newid mor gyflym. Ein nod yn Cefnogi Trydydd Sector Cymru yw cynnig amrediad o gyrsiau e-ddysgu dwyieithog, hygyrch ac o ansawdd uchel sydd am ddim i chi eu hastudio ar-lein ar eich cyflymder eich hun, ar unrhyw adeg.

Mae ein cyrsiau wedi’u llunio gan arbenigwyr sy’n ymroddedig i werthoedd y trydydd sector yng Nghymru. Os oes gennych chi ofynion mynediad penodol, fe wnawn ni weithio gyda chi i wneud yn siŵr bod ein cyrsiau mor hygyrch â phosibl.

Porwch drwy ein cyrsiau ar-lein neu, os ydych chi’n chwilio am gwrs penodol, gallwch chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.

Cyrsiau yn ôl piler

Grŵp yn llunio dogfennau

Llywodraethu Da

Eich helpu chi i arwain eich mudiad

Llywodraethu Da
Llaw gefnogol

Gwirfoddoli

Adeiladu cymunedau gwell trwy wirfoddoli

Gwirfoddoli
Llaw i gefnogi planhigyn sy’n tyfu

Cyllid Cynaliadwy

Creu trydydd sector ffyniannus a chynaliadwy

Cyllid Cynaliadwy
Grŵp o bobl yn cymryd rhan drwy ddal dwylo

Ymgysylltu a Dylanwadu

Dylanwadu ar benderfynwyr er mwyn effeithio ar newid

Ymgysylltu a Dylanwadu