{"id":566,"date":"2023-09-06T14:11:03","date_gmt":"2023-09-06T13:11:03","guid":{"rendered":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/terms-conditions\/"},"modified":"2023-09-20T16:03:17","modified_gmt":"2023-09-20T15:03:17","slug":"telerau-ac-amodau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/","title":{"rendered":"Telerau ac Amodau"},"content":{"rendered":"\n<p>DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO\u2019R WEFAN HON<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth sydd yn y telerau hyn?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r telerau hyn yn dweud wrthych am y rheolau i ddefnyddio ein gwefannau:<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/wcva.org.uk\/\">https:\/\/wcva.org.uk\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/\">https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.recruit3.org.uk\">https:\/\/www.recruit3.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.volunteering-wales.net\">https:\/\/www.volunteering-wales.net<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Cadwn bob hawl na fynegir yn benodol yn y telerau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pwy ydym ni a sut i gysylltu \u00e2 ni<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gweithredir y gwefannau gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sef WCVA, (\u201cni\u201d). Rydym wedi ein cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cwmni 00425299 a\u2019n cofrestru\u2019n elusen o dan y rhif elusen 218093. Mae ein swyddfa gofrestredig yn Nh\u0177 Baltig, Sgw\u00e2r Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH.<\/p>\n\n\n\n<p>I gysylltu \u00e2 ni, ebostiwch&nbsp;<a href=\"mailto:webmaster@thirdsectorsupport.wales\">webmaster@thirdsectorsupport.wales<\/a>, ysgrifennwch at Gwefeistr, WCVA, T\u0177 Baltig, Sgw\u00e2r Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH neu ffoniwch ein llinell gwasanaeth cwsmeriaid sef 0800 2888 329.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Wrth ddefnyddio ein gwefannau rydych yn derbyn y telerau hyn<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Wrth ddefnyddio ein gwefannau, rydych yn cadarnhau\u2019ch bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a\u2019ch bod yn cytuno i gydymffurfio \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Os nad ydych yn cytuno \u00e2\u2019r telerau hyn, rhaid i chi beidio \u00e2 defnyddio ein gwefannau.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe\u2019ch argymhellwn i argraffu copi o\u2019r telerau hyn i gyfeirio atynt yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ceir telerau eraill a all fod yn berthnasol i chi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i\u2019ch defnydd o\u2019n gwefannau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ein&nbsp;<a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Polisi Preifatrwydd<\/a>, sy\u2019n amlinellu\u2019r telerau yr ydym yn prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi yn unol \u00e2 nhw, neu yr ydych chi\u2019n ei ddarparu i ni. Wrth ddefnyddio ein gwefannau, rydych yn caniat\u00e1u prosesu o\u2019r fath ac yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/polisi-cwcis\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Y Polisi Cwcis<\/a>&nbsp;ar gyfer pob gwefan sy\u2019n amlinellu gwybodaeth yngl\u0177n \u00e2\u2019r cwcis ar ein gwefannau. Mae dolenni at ein polis\u00efau cwcis ar gael ar bob gwefan unigol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Gallwn newid y telerau hyn<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bosib y byddwn yn newid y telerau hyn o bryd i\u2019w gilydd. Bob tro rydych am ddefnyddio ein gwefannau, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau\u2019ch bod yn deall y telerau sydd mewn grym bryd hynny.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gallwn newid ein gwefannau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bosib y byddwn yn diweddaru ac yn newid ein gwefannau o bryd i\u2019w gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gallwn atal neu ddiddymu ein gwefannau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein gwefannau ar gael yn rhad ac am ddim.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefannau, na\u2019r cynnwys arnynt, ar gael bob amser nac yn ddi-dor. Mae\u2019n bosib y byddwn yn atal neu\u2019n diddymu neu\u2019n cyfyngu argaeledd ein holl wefannau, neu ran ohonynt, am resymau busnes a gweithredol.<\/p>\n\n\n\n<p>Chi sy\u2019n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy\u2019n defnyddio ein gwefannau drwy eich cysylltiad \u00e2\u2019r rhyngrwyd yn ymwybodol o\u2019r telerau defnyddio hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a\u2019u bod yn cydymffurfio \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhaid i chi gadw manylion eich cyfrif yn ddiogel<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych yn dewis cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o\u2019n gweithdrefnau diogelwch, neu os rhoddir y rhain i chi, rhaid i chi drin gwybodaeth o\u2019r fath yn gyfrinachol. Rhaid i chi beidio \u00e2\u2019i datgelu i drydydd parti.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennym yr hawl i ddiddymu unrhyw god neu gyfrinair adnabod defnyddiwr, ni waeth a yw\u2019n un a ddewiswyd gennych chi neu\u2019n un a ddarparwyd gennym ni, unrhyw bryd os yn ein barn resymol rydych wedi methu \u00e2 chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau yn y telerau defnyddio hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych yn gwybod neu\u2019n amau bod unrhyw un arall heblaw amdanoch chi yn gwybod eich cod neu\u2019ch cyfrinair adnabod defnyddiwr, rhaid i chi roi gwybod i ni yn brydlon drwy ebostio webmaster@thirdsectorsupport.wales<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae ein nodau masnach wedi\u2019u cofrestru<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cyfranogaeth Cymru a Participation Cymru yn nodau masnach cofrestredig i WCVA. Ni chaniateir i chi eu defnyddio heb ein cymeradwyaeth, onid ydynt yn rhan o ddeunydd yr ydych yn ei ddefnyddio fel a ganiateir o dan Sut y cewch ddefnyddio deunydd ar ein gwefannau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut y cewch ddefnyddio deunydd ar ein gwefannau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Oni nodir yn wahanol, ni yw perchennog neu drwyddedai pob hawl eiddo deallusol ar ein gwefannau, ac yn y deunydd a gyhoeddir arnynt. Gwarchodir y gweithiau hynny gan ddeddfau a chytuniadau hawlfraint o amgylch y byd. Cedwir pob hawl o\u2019r fath. Ni chaniateir cop\u00efo nac ail drawsyrru logos, deunydd graffeg na delweddau ar wefan WCVA heb ein caniat\u00e2d ysgrifenedig ymlaen llaw ac nid yw\u2019r caniat\u00e2d a roddir isod yn ymestyn i ddyluniad na gosodiad ein gwefannau ac ni cheir eu cop\u00efo\u2019n llawn nac yn rhannol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn amodol ar yr eithriadau a nodir uchod, cewch argraffu fel copi caled, lawrlwytho i ddisg galed leol neu ddefnyddio unrhyw ddeunydd ar ein gwefannau ar yr amod bod hynny at eich defnydd personol chi neu ar gael i eraill yn eich mudiad chi\u2019n unig.<\/p>\n\n\n\n<p>Caniateir i gop\u00efau gael eu cyflenwi i drydydd parti ar yr amod eu bod at eu defnydd personol; na fyddant yn cael eu cyflenwi fel rhan o waith neu gyhoeddiad arall, ac na fyddant yn cael eu cyflenwi\u2019n uniongyrchol yn gyfnewid am elw masnachol. Mae cyflenwi copi i drydydd parti yn amodol ar eu hysbysu o\u2019r ffaith bod y telerau hyn yr un mor weithredol yn eu hachos hwythau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i chi beidio ag addasu\u2019r cop\u00efau papur na digidol o ddeunyddiau yr ydych wedi\u2019u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio \u00e2 defnyddio delweddau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain neu unrhyw ddeunyddiau graffeg heb unrhyw destun sy\u2019n mynd gyda nhw. Caniateir cyfieithu ar yr amod eich bod yn derbyn cyfrifoldeb llawn am gywirdeb y cyfieithiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid bob amser gydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodir) fel awduron y cynnwys ar ein gwefannau. Rhaid cadw pob hysbysiad hawlfraint a pherchnogol yn gyflawn, a rhaid atgynhyrchu ein cyfeiriad a\u2019n manylion cyswllt.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw\u2019r caniat\u00e2d i atgynhyrchu ein deunydd hawlfraint yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y gwefannau sydd wedi\u2019i nodi fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael caniat\u00e2d uniongyrchol deiliad yr hawlfraint berthnasol i atgynhyrchu deunydd o\u2019r fath.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych yn argraffu, yn cop\u00efo neu\u2019n lawrlwytho unrhyw ran o\u2019n gwefannau yn groes i\u2019r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefannau yn darfod ar unwaith a rhaid i chi, yn \u00f4l ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gop\u00efau o\u2019r deunyddiau yr ydych wedi\u2019u gwneud.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddem yn barod i ystyried ceisiadau am ganiat\u00e2d i ddefnyddio deunydd o\u2019n gwefannau sydd y tu hwnt i delerau\u2019r caniat\u00e2d a nodir uchod. Rhaid gwneud cais o\u2019r fath yn ysgrifenedig ymlaen llaw a\u2019i gyfeirio at&nbsp;<a>webmaster@thirdsectorsupport.wales<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Peidiwch \u00e2 dibynnu ar wybodaeth ar y gwefannau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Darperir y cynnwys ar ein gwefannau er gwybodaeth yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn&nbsp; penderfynu gweithredu neu beidio \u00e2 gweithredu ar sail y cynnwys ar ein gwefannau. Ni dderbyniwn gyfrifoldeb am wallau, hepgoriadau, datganiadau camarweiniol nac am ganlyniadau hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Er ein bod yn ymdrechu\u2019n rhesymol i ddiweddaru\u2019r wybodaeth ar ein gwefannau, nid ydym yn honni nac yn gwarantu, boed yn ddiamwys neu\u2019n ymhlyg, &nbsp;fod y cynnwys ar ein gwefannau yn gywir, yn gyflawn nac wedi\u2019i ddiweddaru.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw cyfeiriad at unrhyw fudiad, cwmni neu unigolyn ar ein gwefannau, neu unrhyw wefannau eraill y mae dolen atynt, yn golygu ein bod yn cymeradwyo nac yn gwarantu eu henw da na\u2019u gallu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Nid ydym yn gyfrifol am wefannau yr ydym yn darparu dolenni atynt<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pan fo ein gwefannau yn cynnwys dolenni at wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd part\u00efon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Nid yw darparu dolenni o\u2019r fath yn golygu ein bod yn cymeradwyo gwefannau\u2019r dolenni hynny nac unrhyw wybodaeth a gewch chi ohonynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y gwefannau na\u2019r adnoddau hynny.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Nid ydym yn cymeradwyo cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gall ein gwefannau gynnwys gwybodaeth a deunyddiau a lanlwythir gan ddefnyddwyr eraill o\u2019r gwefannau. Nid ydym wedi gwirio na chymeradwyo\u2019r wybodaeth na\u2019r deunyddiau hyn ac ni dderbyniwn gyfrifoldeb am unrhyw wallau, hepgoriadau neu anghywirdeb mewn deunydd a gyflwynir. Nid yw\u2019r farn a fynegir gan ddefnyddwyr eraill ar ein gwefannau yn cynrychioli ein barn na\u2019n gwerthoedd ni.<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffech gwyno ynghylch gwybodaeth a deunyddiau a lanlwythir gan ddefnyddwyr eraill cysylltwch \u00e2 ni gan ddefnyddio\u2019r manylion cyswllt a nodir ar dudalen 1 yn y telerau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a ddaw i\u2019ch rhan chi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>I\u2019r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn gwrthod pob cyfrifoldeb am hawliau sy\u2019n codi o ddefnydd o\u2019n gwefannau, neu\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019u defnyddio, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) hawliau sy\u2019n codi o oedi, toriad neu anallu i gael at y gwefannau a defnyddio unrhyw gynnwys ar ein gwefannau neu ddibynnu arno. Nid ydym yn gwrthod nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ein cyfrifoldeb i chi pan fyddai gwneud hynny\u2019n anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein cyflogeion, ein hasiantau neu ein his-gontractwyr ac am dwyll neu gamliwio twyllodrus.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Lanlwytho cynnwys i\u2019n gwefannau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pryd bynnag rydych yn defnyddio nodwedd sy\u2019n eich galluogi i lanlwytho cynnwys i\u2019n gwefannau, neu i gysylltu \u00e2 defnyddwyr eraill o\u2019n gwefannau, rhaid i chi gydymffurfio \u00e2\u2019r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydych yn gwarantu bod unrhyw gyfraniad o\u2019r fath yn cydymffurfio \u00e2\u2019r safonau hynny, a byddwch yn atebol i ni ac yn ein hindemnio os torrir y warant honno mewn unrhyw ffordd. Golyga hyn y byddwch yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddaw i\u2019n rhan ni o ganlyniad i dorri\u2019ch gwarant.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych yn lanlwytho cynnwys i\u2019n gwefannau, ystyriwn nad yw\u2019r cynnwys hwn yn gyfrinachol a\u2019i fod yn amherchnogol. Byddwch yn cadw\u2019ch holl hawliau perchnogaeth i\u2019ch cynnwys, ond bydd yn ofynnol i chi roi trwydded gyfyngedig i ni a defnyddwyr eraill o\u2019n gwefannau i ddefnyddio, storio a chop\u00efo\u2019r cynnwys hwnnw ac i\u2019w ddosbarthu a\u2019i wneud ar gael i drydydd part\u00efon.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennym hefyd yr hawl i ddatgelu eich hunaniaeth i unrhyw drydydd parti sy\u2019n hawlio bod unrhyw gynnwys a bostiwyd neu a lanlwythwyd gennych chi i\u2019n gwefannau yn torri eu hawliau eiddo deallusol, neu eu hawl i breifatrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Cadwn yr hawl i hepgor, atal neu olygu unrhyw ddeunydd a gyflwynir a dileu unrhyw beth rydych yn ei roi ar ein gwefannau os, yn ein barn ni, nad yw\u2019ch cynnwys yn cydymffurfio \u00e2\u2019r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.<\/p>\n\n\n\n<p>Chi, a chi yn unig, sy\u2019n gyfrifol am ddiogelu\u2019ch cynnwys a chreu copi wrth gefn ohono.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Nid ydym yn gyfrifol am feirysau a rhaid i chi beidio \u00e2\u2019u cyflwyno<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefannau yn ddiogel nac yn rhydd rhag bygiau na feirysau.<\/p>\n\n\n\n<p>Chi sy\u2019n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a\u2019ch llwyfan i gael at ein gwefannau. Dylech ddefnyddio\u2019ch meddalwedd eich hun i warchod rhag feirysau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i chi beidio \u00e2 chamddefnyddio ein gwefannau drwy gyflwyno feirysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy\u2019n faleisus neu\u2019n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio \u00e2 cheisio cael mynediad heb awdurdod at ein gwefannau, y gweinyddion y mae ein gwefannau yn cael eu storio arnynt nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019n gwefannau. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefannau drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth nac ymosodiad gwrthod gwasanaeth wedi\u2019i ddosbarthu. Os ydych yn torri\u2019r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw doriad o\u2019r fath i awdurdodau gorfodi\u2019r gyfraith berthnasol a byddwn yn cydweithredu \u00e2\u2019r awdurdodau hynny trwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt hwy. Mewn achos o\u2019r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefannau yn darfod ar unwaith.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rheolau yngl\u0177n \u00e2 darparu dolenni at ein gwefannau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cewch greu dolenni at ein gwefannau ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i ni yn ysgrifenedig cyn creu\u2019r ddolen a\u2019ch bod yn darparu dolen at ein gwefannau mewn ffordd deg a chyfreithlon nad yw\u2019n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i chi beidio \u00e2 sefydlu dolen mewn ffordd sy\u2019n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni pan nad yw hynny\u2019n bodoli.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i chi beidio \u00e2 sefydlu dolen at ein gwefannau ar unrhyw wefan nad ydych yn berchen arni.<\/p>\n\n\n\n<p>Cadwn yr hawl i dynnu caniat\u00e2d creu dolen yn \u00f4l heb rybudd.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i\u2019r wefan sy\u2019n cynnwys y ddolen gydymffurfio ym mhob agwedd \u00e2\u2019r safonau cynnwys a nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y Gymraeg<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn fudiad i Gymru gyfan ac yn hyrwyddo ac yn annog y defnydd o\u2019r Gymraeg. Mae ein gwefannau yn galluogi defnyddwyr proffil i lanlwytho gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ac anogwn hyn yn gryf. Os nad oes gennych wasanaeth cyfieithu ond hoffech lanlwytho gwybodaeth yn ddwyieithog cysylltwch \u00e2 ni i gael gwybodaeth drwy ebostio help@wcva.org.uk.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Deddfau pa wlad sy\u2019n llywodraethu unrhyw anghydfodau?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Llywodraethir y telerau defnyddio hyn, eu cynnwys a\u2019u ffurfiant (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliau digontract) gan gyfraith Cymru a Lloegr. Cytunwn ni\u2019n dau i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO\u2019R WEFAN HON Beth sydd yn y telerau hyn? Mae\u2019r telerau hyn yn dweud wrthych am y rheolau i ddefnyddio ein gwefannau: https:\/\/wcva.org.uk\/ https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/ https:\/\/www.recruit3.org.uk https:\/\/www.volunteering-wales.net Cadwn bob hawl na fynegir yn benodol yn y telerau hyn. Pwy ydym ni a sut i gysylltu \u00e2 ni &hellip; <a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":9,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-566","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v21.9.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Telerau ac Amodau - Cefnogi Trydydd Sector Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Telerau ac Amodau - Cefnogi Trydydd Sector Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO\u2019R WEFAN HON Beth sydd yn y telerau hyn? Mae\u2019r telerau hyn yn dweud wrthych am y rheolau i ddefnyddio ein gwefannau: https:\/\/wcva.org.uk\/ https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/ https:\/\/www.recruit3.org.uk https:\/\/www.volunteering-wales.net Cadwn bob hawl na fynegir yn benodol yn y telerau hyn. Pwy ydym ni a sut i gysylltu \u00e2 ni &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cefnogi Trydydd Sector Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-09-20T15:03:17+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/\",\"url\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/\",\"name\":\"Telerau ac Amodau - Cefnogi Trydydd Sector Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-09-06T13:11:03+00:00\",\"dateModified\":\"2023-09-20T15:03:17+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Telerau ac Amodau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/\",\"name\":\"Cefnogi Trydydd Sector Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Telerau ac Amodau - Cefnogi Trydydd Sector Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Telerau ac Amodau - Cefnogi Trydydd Sector Cymru","og_description":"DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO\u2019R WEFAN HON Beth sydd yn y telerau hyn? Mae\u2019r telerau hyn yn dweud wrthych am y rheolau i ddefnyddio ein gwefannau: https:\/\/wcva.org.uk\/ https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/ https:\/\/www.recruit3.org.uk https:\/\/www.volunteering-wales.net Cadwn bob hawl na fynegir yn benodol yn y telerau hyn. Pwy ydym ni a sut i gysylltu \u00e2 ni &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/","og_site_name":"Cefnogi Trydydd Sector Cymru","article_modified_time":"2023-09-20T15:03:17+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/","url":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/","name":"Telerau ac Amodau - Cefnogi Trydydd Sector Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/#website"},"datePublished":"2023-09-06T13:11:03+00:00","dateModified":"2023-09-20T15:03:17+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/telerau-ac-amodau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Telerau ac Amodau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/#website","url":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/","name":"Cefnogi Trydydd Sector Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/566","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=566"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/566\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":568,"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/566\/revisions\/568"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=566"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}