{"id":662,"date":"2023-07-12T15:43:21","date_gmt":"2023-07-12T14:43:21","guid":{"rendered":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/?page_id=662"},"modified":"2026-04-02T10:58:43","modified_gmt":"2026-04-02T09:58:43","slug":"preifatrwydd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/","title":{"rendered":"Preifatrwydd"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Hysbysiad Preifatrwydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru 25 Mawrth 2026<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1. <strong>Cyflwyniad<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru (<strong>TSSW<\/strong>, y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwn fel <strong>ni<\/strong> neu <strong>ein<\/strong>) wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Mae&#8217;r hysbysiad preifatrwydd hwn (<strong>Hysbysiad Preifatrwydd<\/strong>) yn egluro sut mae aelodau TSSW yn casglu ac yn prosesu data personol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Hysbysiad Preifatrwydd hwn hefyd yn egluro sut bydd aelodau TSSW yn rhannu ac yn defnyddio data personol, ac at ba ddibenion. Mae hyn yn cynnwys y cronfeydd data rydym yn eu rheoli (<strong>Cronfeydd Data<\/strong>) a&#8217;r data personol sydd ynddynt.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi&#8217;i fwriadu ar gyfer unrhyw unigolion y mae eu data personol wedi&#8217;i gynnwys yn y Cronfeydd Data i&#8217;w defnyddio gan aelodau TSSW.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bosibl y byddwn ni&#8217;n diweddaru&#8217;r Hysbysiad Preifatrwydd hwn o bryd i&#8217;w gilydd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. <strong>Pwy yw TSSW?<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae TSSW yn gydweithrediad rhwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (<strong>CGGC<\/strong>) a&#8217;r Cynghorau Gwirfoddol Sirol (<strong>CVCs<\/strong>). Nod pawb ohonom yw galluogi&#8217;r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu&#8217;n llawn at lesiant unigol a chymunedol, yn awr ac yn y dyfodol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhestr lawn o&#8217;n haelodau presennol ar gael <a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/contact-us\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y llwyfannau, y gwasanaethau a&#8217;r Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (API) cysylltiedig canlynol yn defnyddio eich data personol yn unol \u00e2&#8217;r Hysbysiad Preifatrwydd hwn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rheoli Cysylltiadau \u00e2 Chleientiaid (<strong>CRM<\/strong>)<\/li>\n\n\n\n<li>Cyllido Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>infoengine<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Hwb Gwybodaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogi Trydydd Sector Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Gwirfoddoli Cymru<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">3. <strong>Data Personol<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw. Nid yw&#8217;n cynnwys data lle nad oes modd adnabod unigolyn (data dienw).<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y byddwn yn casglu, yn defnyddio, yn storio ac yn trosglwyddo gwahanol fathau o ddata personol. Os hoffech weld sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau penodol, ewch i&#8217;r adran <strong>Defnyddio eich data personol<\/strong> ar waelod yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cronfeydd data<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Cronfeydd data yn ein galluogi i reoli sut rydym yn cyfathrebu \u00e2 phobl a sefydliadau sy&#8217;n dymuno clywed gennym. Gan ddefnyddio&#8217;r data personol yn y Cronfeydd data, gallwn anfon cyfathrebiadau a fydd, yn ein barn ni, o ddiddordeb i chi drwy e-bost, ff\u00f4n, SMS, post, cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol eraill. Mae defnyddio&#8217;r Cronfeydd data yn osgoi dyblygu diangen ac yn eich galluogi i reoli&#8217;r cyfathrebiadau rydych chi&#8217;n eu cael gan TSSW neu ei aelodau.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd yn defnyddio&#8217;r Cronfeydd data i ddarparu gwybodaeth a dadansoddiadau. Mae hyn yn ein helpu i wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwella effeithiolrwydd ein cyfathrebu&#8217;n barhaus.<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu&#8217;r cynhyrchion a&#8217;r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i&#8217;r sefydliadau sy&#8217;n aelodau.<\/li>\n\n\n\n<li>Monitro cyrhaeddiad ein cyfathrebiadau ac amrywiaeth y derbynwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu adroddiadau i gyllidwyr a rheoleiddwyr.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Marchnata trydydd parti<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Optio allan<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch ofyn i ni neu drydydd parti roi&#8217;r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch chi unrhyw bryd drwy ddilyn y dolenni optio allan ar unrhyw neges farchnata a anfonir atoch chi neu drwy gysylltu \u00e2 ni. Pan fyddwch yn dewis optio allan rhag derbyn y negeseuon marchnata hyn, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata personol a ddarperir i ni o ganlyniad i dderbyn ein gwasanaethau ac at y dibenion hynny.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Os na fyddwch chi&#8217;n darparu data personol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd angen i ni gasglu data personol yn \u00f4l y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi, ac na fyddwch chi&#8217;n darparu&#8217;r data hwnnw pan ofynnir amdano, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni&#8217;r contract sydd gennym neu rydym yn ceisio ymrwymo iddo gyda chi (er enghraifft, i ddarparu gwasanaethau i chi). Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo gwasanaeth sydd gennych gyda ni ond byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn digwydd ar y pryd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">4. <strong>Sut mae TSSW yn casglu Data Personol?<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol i gasglu data gennych chi ac amdanoch chi, gan gynnwys drwy&#8217;r canlynol:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhyngweithio uniongyrchol.<\/strong> Gallwch roi eich data personol i ni pan fyddwch yn rhyngweithio&#8217;n uniongyrchol \u00e2 ni, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Technolegau neu ryngweithio awtomataidd.<\/strong> Wrth i chi ryngweithio \u00e2&#8217;n gwefan, byddwn yn casglu Data Technegol yn awtomatig am eich offer, eich hanes pori a&#8217;ch patrymau. Rydym yn casglu&#8217;r data personol hwn drwy ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg eraill.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Trydydd part\u00efon.<\/strong> Efallai y byddwn yn cael data personol amdanoch gan wahanol sefydliadau sy&#8217;n aelodau neu sydd \u00e2 chysylltiad \u00e2 ni. Er enghraifft, efallai eich bod yn gweithio neu&#8217;n gwirfoddoli i un o&#8217;r sefydliadau hyn a bod y sefydliad wedi trosglwyddo eich manylion i ni.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">5. <strong>Datgelu eich Data Personol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol \u00e2&#8217;r trydydd part\u00efon canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Darparwyr gwasanaethau<\/strong> &#8211; rydym yn defnyddio rhai darparwyr trydydd parti i&#8217;n helpu i redeg ein sefydliadau, fel darparwyr gwasanaethau sy&#8217;n darparu systemau TG a gweinyddu systemau, neu werthuswyr i asesu ein Cronfeydd Data a&#8217;n systemau.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cynghorwyr proffesiynol<\/strong> gan gynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr sy&#8217;n darparu gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifyddu.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Awdurdodau treth<\/strong> y mae&#8217;n ofynnol iddynt adrodd ar weithgareddau prosesu mewn rhai amgylchiadau.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Partneriaid digidol dibynadwy ac integreiddiadau gwasanaeth<\/strong> &#8211; mewn rhai achosion, gall data personol gael ei rannu \u00e2 mudiadau partner dibynadwy pan fo hyn yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau TSSW neu wella\u2019r mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli, cyllido neu gymorth. Gall hyn gynnwys integreiddiadau system diogel neu Ryngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (APIs) sy\u2019n caniat\u00e1u i blatfformau cymeradwy arddangos neu brosesu gwybodaeth berthnasol (er enghraifft, cyfleoedd gwirfoddoli). Bydd unrhyw drefniadau o\u2019r fath dim ond yn cael eu sefydlu gyda phartneriaid a gymeradwywyd drwy bartneriaeth TSSW a byddant yn gweithredu yn unol \u00e2 deddfwriaeth diogelu data a chytundebau rhannu data priodol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym yn mynnu bod pob trydydd parti yn parchu diogelwch eich data personol ac yn ei drin yn unol \u00e2&#8217;r gyfraith. Nid ydym yn caniat\u00e1u i&#8217;n darparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond at ddibenion penodol ac yn unol \u00e2&#8217;n cyfarwyddiadau ni y byddant yn cael prosesu eich data personol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Adroddiadau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y byddwn yn paratoi adroddiadau o&#8217;r Cronfeydd data ac yn eu rhannu \u00e2 Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y Comisiwn Elusennau a sefydliadau tebyg yn \u00f4l yr angen. Efallai y bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r adroddiadau&#8217;n cael eu paratoi gan ddefnyddio Data Cyfunol (fel y&#8217;i diffinnir ymhellach yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn). Ni ddarperir eich gwybodaeth bersonol er mwyn llunio adroddiad ac ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol \u00e2&#8217;r cyrff hyn. Gall aelodau TSSW benodi ymchwilydd allanol i&#8217;n helpu gyda&#8217;r gwaith hwn, a fyddai&#8217;n gallu cael mynediad at y Data Cyfunol sydd yn y Cronfeydd Data.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">6. <strong>Diogelwch Data<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli&#8217;n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu ei gyrchu mewn ffordd heb awdurdod, ei newid neu ei ddatgelu. Ar ben hynny, rydym yn cyfyngu ar fynediad at eich data personol i aelodau TSSW, cyflogeion, asiantau, contractwyr a thrydydd part\u00efon eraill y mae angen busnes iddynt wybod. Dim ond ar ein cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol ac mae dyletswydd cyfrinachedd arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data personol a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am achos o dorri amodau lle mae&#8217;n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">7. <strong>Cadw Data<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyn hired ag sy&#8217;n rhesymol angenrheidiol i gyflawni&#8217;r dibenion y casglwyd y data ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu adrodd. Efallai y byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hirach os bydd cwyn neu os byddwn yn credu&#8217;n rhesymol bod posibilrwydd o ymgyfreitha mewn cysylltiad \u00e2&#8217;n perthynas \u00e2 chi.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn penderfynu ar y cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried maint, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer ac a allwn gyflawni&#8217;r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a&#8217;r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth a chyfrifyddu perthnasol, neu ofynion eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol: cymerwch gip ar eich hawliau cyfreithiol isod i gael rhagor o wybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">8. <strong>Rheolydd data<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Er bod y Cronfeydd data&#8217;n cael eu rheoli gan CGGC, mae&#8217;r wybodaeth yn y Cronfeydd data&#8217;n cael ei chadw ar ran holl aelodau TSSW. Rydym yn rheolwyr data ar y cyd ar gyfer y data personol sydd yn y Cronfeydd data.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy&#8217;n llywodraethu ein perthynas mewn cysylltiad \u00e2&#8217;r Cronfeydd data a&#8217;r gwasanaethau. Mae pob aelod o TSSW sydd wedi ymrwymo i&#8217;r Memorandwm hwn wedi penodi cyswllt sy&#8217;n gyfrifol am unrhyw ddata personol sy&#8217;n cael ei rannu o dan y Memorandwm, ac am gydymffurfio ag ef.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">9. <strong>Sail gyfreithiol dros brosesu<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Dim ond pan fydd cyfraith diogelu data y DU yn caniat\u00e1u i ni wneud hynny y byddwn ni&#8217;n defnyddio eich data personol. Yn fwyaf cyffredin, rydym yn prosesu eich data personol at y dibenion a ddisgrifir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, ar sail y rhesymau cyfreithiol canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pan fydd angen i ni gyflawni&#8217;r contract rydym ar fin ymrwymo iddo neu rydym wedi ymrwymo iddo gyda chi (fel darparu gwasanaethau i chi).<\/li>\n\n\n\n<li>Pan fo hynny&#8217;n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau dilys ni (neu rai trydydd parti), ac nad ydynt yn drech na&#8217;ch buddiannau a&#8217;ch hawliau sylfaenol chi. Er enghraifft, gwella ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein cleientiaid.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Pan fydd angen i ni gydymffurfio \u00e2 rhwymedigaeth gyfreithiol. Er enghraifft, weithiau mae rhwymedigaethau cyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw gwybodaeth benodol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">10. <strong>Eich Hawliau Cyfreithiol<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>O dan rai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gofyn am fynediad<\/strong> at eich data personol (sy&#8217;n cael ei alw&#8217;n <strong>gais am fynediad at ddata gan y testun<\/strong> fel arfer). Mae hyn yn eich galluogi i gael copi o&#8217;r data personol sydd gennym amdanoch ac i wneud yn si\u0175r ein bod yn ei brosesu&#8217;n gyfreithlon.<\/li>\n\n\n\n<li>Gofyn am i&#8217;r data personol rydym yn ei ddal amdanoch chi gael <strong>ei gywiro<\/strong>. Mae hyn yn eich galluogi i sicrhau bod unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi yn cael ei gywiro, er efallai y bydd angen i ni wirio cywirdeb y data newydd rydych chi&#8217;n ei ddarparu i ni.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwneud cais i ddileu<\/strong> eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu gael gwared \u00e2 data personol lle nad oes rheswm da dros barhau i&#8217;w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu neu gael gwared \u00e2&#8217;ch data personol pan fyddwch wedi arfer eich hawl yn llwyddiannus i wrthwynebu prosesu (gweler isod), lle gallem fod wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae&#8217;n ofynnol i ni ddileu eich data personol er mwyn cydymffurfio \u00e2 chyfraith leol.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwrthwynebu prosesu<\/strong> eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu fuddiant trydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy&#8217;n gwneud i chi fod eisiau gwrthwynebu prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a&#8217;ch rhyddid sylfaenol. Mae gennych hawl i wrthwynebu hefyd lle rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gofyn am gyfyngu ar brosesu<\/strong> eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu eich data personol, ond dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol:\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os ydych chi am i ni gadarnhau cywirdeb y data.<\/li>\n\n\n\n<li>Pan mae ein defnydd o&#8217;r data yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Pan rydych chi angen i ni gadw&#8217;r data hyd yn oed os nad oes ei angen arnom mwyach gan fod ei angen arnoch i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Rydych chi wedi gwrthwynebu ein defnydd o&#8217;ch data ond mae angen i ni wirio a oes gennym sail gyfreithiol hollbwysig dros ei ddefnyddio.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Gwneud cais i drosglwyddo<\/strong> eich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu eich data personol i chi, neu drydydd parti rydych chi wedi&#8217;i ddewis, mewn fformat strwythuredig sy&#8217;n cael ei ddefnyddio&#8217;n gyffredin ac sy&#8217;n hawdd ei ddarllen gan beiriant. Sylwch nad yw&#8217;r hawl hwn yn berthnasol ond i wybodaeth awtomataidd y rhoesoch ganiat\u00e2d i ni ei defnyddio yn y lle cyntaf neu lle bu i ni ddefnyddio&#8217;r wybodaeth i gyflawni contract \u00e2 chi.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Tynnu cydsyniad yn \u00f4l unrhyw bryd<\/strong> lle rydym yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a wneir cyn i chi dynnu eich caniat\u00e2d yn \u00f4l. Os byddwch yn tynnu eich caniat\u00e2d yn \u00f4l, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau i chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn wir pan fyddwch yn tynnu eich caniat\u00e2d yn \u00f4l.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n dymuno arfer unrhyw un o&#8217;r hawliau a nodir uchod, cysylltwch \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Does dim angen talu ffi fel arfer<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (nac i arfer unrhyw un o&#8217;ch hawliau eraill). Fodd bynnag, mae&#8217;n bosibl y byddwn yn codi ffi resymol os tybir bod eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu&#8217;n ormodol. Neu, gallem wrthod cydymffurfio \u00e2&#8217;ch cais yn yr amgylchiadau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth fyddwn ni ei angen gennych chi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bosibl y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych i&#8217;n helpu i gadarnhau pwy ydych chi ac i sicrhau bod gennych chi hawl i weld eich data personol (neu i arfer unrhyw rai o&#8217;ch hawliau eraill). Mesur diogelwch yw hwn i sicrhau nad yw data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw un nad oes ganddo&#8217;r hawl i&#8217;w gael. Mae&#8217;n bosibl y byddwn hefyd yn cysylltu \u00e2 chi i ofyn am ragor o wybodaeth ynghylch eich cais i gyflymu ein hymateb.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Terfyn amser i ymateb<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. O bryd i&#8217;w gilydd, gallai gymryd mwy na mis i ni os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr achos hwn, byddwn yn eich hysbysu ac yn rhoi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf i chi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cwynion<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennych chi&#8217;r hawl i gwyno unrhyw bryd wrth Swyddfa&#8217;r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwylio&#8217;r DU ar gyfer materion sy&#8217;n ymwneud \u00e2 diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi&#8217;r cyfle i ddelio \u00e2&#8217;r hyn sy&#8217;n eich poeni cyn i chi gysylltu \u00e2 Swyddfa&#8217;r Comisiynydd, felly cysylltwch \u00e2 ni yn y lle cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">11. <strong>Sut mae cysylltu \u00e2 ni<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Gobeithio bod yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi bod yn ddefnyddiol o ran sut rydym yn defnyddio data personol a&#8217;ch hawliau mewn perthynas \u00e2 data personol o&#8217;r fath. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch \u00e2 ni:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Anfonwch e-bost atom yn <a href=\"mailto:dpo@wcva.cymru\">dpo@wcva.cymru<\/a>.&nbsp;<\/li>\n\n\n\n<li>Ysgrifennwch atom yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Un Rhodfa\u2019r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5BF.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Atodiad 1 &#8211; Defnyddio eich data personol<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym wedi grwpio&#8217;r data personol a ddefnyddiwn gyda&#8217;i gilydd fel a ganlyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae <strong>Data Adnabod<\/strong> yn cynnwys enw cyntaf, cyfenw, dyddiad geni, teitl swydd ac enw&#8217;r sefydliad.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae <strong>Data Cyswllt<\/strong> yn cynnwys cyfeiriad bilio, cyfeiriad e-bost personol, cyfeiriad e-bost busnes a rhifau ff\u00f4n.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae <strong>Data Sensitif<\/strong> yn cynnwys rhywedd, tarddiad hiliol neu ethnig, a chyflyrau iechyd<\/li>\n\n\n\n<li>Mae <strong>Data Technegol<\/strong> yn cynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), eich data mewngofnodi, a gwybodaeth dechnegol arall am y dyfeisiau rydych chi&#8217;n eu defnyddio i gael mynediad at unrhyw wasanaethau TSSW.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae <strong>Data Defnydd<\/strong> yn cynnwys gwybodaeth am sut rydych chi&#8217;n defnyddio ein gwefan a&#8217;n gwasanaethau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu <strong>Data Cyfunol<\/strong> fel data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gall Data Cyfunol ddeillio o&#8217;ch data personol, ond nid yw&#8217;n cael ei ystyried yn ddata personol yn gyfreithiol gan na fydd y data hwn yn datgelu pwy ydych chi&#8217;n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu&#8217;n cysylltu Data Cyfunol \u00e2 data personol er mwyn iddo allu adnabod unigolyn yn uniongyrchol neu&#8217;n anuniongyrchol, byddwn yn trin y data cyfunol fel data personol. Byddai hwn yn cael ei ddefnyddio yn unol \u00e2&#8217;r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dibenion defnyddio eich data personol &#8211; pob llwyfan a gwasanaeth (Gwirfoddoli Cymru, Hwb Gwybodaeth, CRM, Cyllido Cymru ac infoengine)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi rhoi disgrifiad isod o&#8217;r holl ffyrdd y gallwn ddefnyddio eich data personol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table class=\"has-fixed-layout\"><tbody><tr><td><strong>Diben\/Gweithgaredd<\/strong><\/td><td><strong>Math o ddata<\/strong><\/td><\/tr><tr><td>Eich cofrestru chi fel defnyddiwr, gwirfoddolwr neu eich cyfrif<\/td><td>(a) Adnabod\u00a0<br>(b) Cyswllt<\/td><\/tr><tr><td>Crynhoi eich data personol at ddibenion gwerthuso ac adroddiadau dadansoddeg<\/td><td>(a) Adnabod\u00a0<br>(b) Sensitif<br>(c) Cyswllt\u00a0<\/td><\/tr><tr><td>Prosesu a rheoli taliadau<\/td><td>(a) Adnabod\u00a0<br>(b) Cyswllt\u00a0<\/td><\/tr><tr><td>Rheoli ein perthynas \u00e2 chi a fydd yn cynnwys:(a) Rhoi gwybod i chi am newidiadau i&#8217;n telerau&nbsp;(b) Gofyn i chi roi adolygiad neu gymryd rhan mewn arolwg(c) Darparu ar gyfer unrhyw ofynion penodol a allai fod gennych&nbsp;<\/td><td>(a) Adnabod\u00a0<br>(b) Sensitif<br>(c) Cyswllt\u00a0<br><\/td><\/tr><tr><td>Gweinyddu a diogelu ein busnes, ein gwefannau a&#8217;r systemau rydym yn eu defnyddio i ddarparu ein gwasanaethau i chi (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd a lletya data)&nbsp;&nbsp;<\/td><td>(a) Adnabod<br>(b) Cyswllt<br>(c) Technegol<\/td><\/tr><tr><td>Darparu cynnwys perthnasol ar y wefan i chi&nbsp;<\/td><td>(a) Adnabod\u00a0<br>(b) Cyswllt\u00a0<br>(d) Defnydd\u00a0<br>(e) Technegol\u00a0<\/td><\/tr><tr><td>Defnyddio dadansoddeg data i wella ein gwefan, ein gwasanaethau, ein marchnata, ein cysylltiadau \u00e2 chleientiaid a phrofiadau<\/td><td>(a) Technegol\u00a0<br>(b) Defnydd\u00a0<\/td><\/tr><tr><td>Gwneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi&nbsp;<\/td><td>(a) Adnabod\u00a0<br>(b) Cyswllt\u00a0<br>(c) Technegol\u00a0<br>(d) Defnydd\u00a0<\/td><\/tr><tr><td>Prosesu a rheoli&#8217;r cynlluniau aelodaeth sydd gennych gydag unrhyw un o aelodau TSSW<\/td><td>(a) Adnabod\u00a0<br>(b) Cyswllt\u00a0<\/td><\/tr><tr><td>Creu astudiaethau achos<\/td><td>(a) Adnabod\u00a0<br>(b) Cyswllt<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Is-broseswyr a benodwyd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><tbody><tr><td><strong>Pwrpas prosesu<\/strong><\/td><td><strong>Is-broseswyr a benodwyd<\/strong><\/td><\/tr><tr><td>Lletya darparwyr<\/td><td>SalesForce<br>Third Eye Vision (3EV)<br>Ipswich Software Limited<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Gwasanaethau a llwyfannau penodol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r tabl uchod, mae&#8217;r pyrth a&#8217;r gwasanaethau canlynol yn defnyddio gwybodaeth bersonol, naill ai gennych chi neu o&#8217;r Gronfa Ddata, i ddarparu eu gwasanaethau i chi, neu ar gyfer eu gofynion unigol eu hunain:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rheoli Cysylltiadau \u00e2 Chleientiaid (CRM)<\/li>\n\n\n\n<li>infoengine<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae rhagor o wybodaeth am bob llwyfan a gwasanaeth ar gael isod.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Rheoli Cysylltiadau \u00e2 Chleientiaid (CRM)<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Caiff gwybodaeth bersonol ei phrosesu pan fyddwch yn gwneud ymholiad gyda ni (Rhyngweithio) at ddibenion cofnodi&#8217;r rhyngweithio ac at ddibenion adrodd. Os ydych chi&#8217;n archebu lle mewn digwyddiad, yna bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio i reoli&#8217;r digwyddiad ac at ddibenion adrodd.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>infoengine&nbsp;<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu pan fyddwch yn defnyddio gwefan infoengine i greu cofnod.&nbsp;Bydd hefyd angen cyfeiriad e-bost i greu rhestr fer fel y gallwn ni anfon diweddariadau i&#8217;ch rhestr fer atoch chi.&nbsp; Rhaid i ni gadw&#8217;r wybodaeth hon er mwyn darparu&#8217;r gwasanaeth diweddariadau hwn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n penderfynu nad ydych chi eisiau cael diweddariadau i&#8217;ch rhestr fer mwyach, cysylltwch ag infoengine@pavo.org.uk neu ysgrifennwch at: infoengine, PAVO, Uned 30, Ystad Ddiwydiannol Heol Ddole, Llandrindod, Powys, LD1 6DF, a byddwn yn tynnu eich manylion cyswllt oddi ar y system. &nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hysbysiad Preifatrwydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru 25 Mawrth 2026 1. Cyflwyniad Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW, y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwn fel ni neu ein) wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Mae&#8217;r hysbysiad preifatrwydd hwn (Hysbysiad Preifatrwydd) yn egluro sut mae aelodau TSSW yn casglu ac yn prosesu data personol. Mae&#8217;r Hysbysiad &hellip; <a href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":13,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-662","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v21.9.1 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Preifatrwydd - Cefnogi Trydydd Sector Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Preifatrwydd - Cefnogi Trydydd Sector Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Hysbysiad Preifatrwydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru 25 Mawrth 2026 1. Cyflwyniad Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW, y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwn fel ni neu ein) wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Mae&#8217;r hysbysiad preifatrwydd hwn (Hysbysiad Preifatrwydd) yn egluro sut mae aelodau TSSW yn casglu ac yn prosesu data personol. Mae&#8217;r Hysbysiad &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Cefnogi Trydydd Sector Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-04-02T09:58:43+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"14 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/\",\"url\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/\",\"name\":\"Preifatrwydd - Cefnogi Trydydd Sector Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-07-12T14:43:21+00:00\",\"dateModified\":\"2026-04-02T09:58:43+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Preifatrwydd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/\",\"name\":\"Cefnogi Trydydd Sector Cymru\",\"description\":\"\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Preifatrwydd - Cefnogi Trydydd Sector Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Preifatrwydd - Cefnogi Trydydd Sector Cymru","og_description":"Hysbysiad Preifatrwydd Cefnogi Trydydd Sector Cymru 25 Mawrth 2026 1. Cyflwyniad Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW, y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwn fel ni neu ein) wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd. Mae&#8217;r hysbysiad preifatrwydd hwn (Hysbysiad Preifatrwydd) yn egluro sut mae aelodau TSSW yn casglu ac yn prosesu data personol. Mae&#8217;r Hysbysiad &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/","og_site_name":"Cefnogi Trydydd Sector Cymru","article_modified_time":"2026-04-02T09:58:43+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"14 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/","url":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/","name":"Preifatrwydd - Cefnogi Trydydd Sector Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/#website"},"datePublished":"2023-07-12T14:43:21+00:00","dateModified":"2026-04-02T09:58:43+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/preifatrwydd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Preifatrwydd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/#website","url":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/","name":"Cefnogi Trydydd Sector Cymru","description":"","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/662","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=662"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/662\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":676,"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/662\/revisions\/676"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/thirdsectorsupport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=662"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}