Skip to content

Amdanom ni

Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r sector gwirfoddol cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Rydym yn gweithio gyda dinasyddion, gwirfoddolwyr a grwpiau sector gwirfoddol i ganfod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac i weithredu yn unol â hynny. Mae ein gweithgareddau craidd i gryfhau’r sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Galluogi a chefnogi
  • Bod yn gatalydd
  • Ymgysylltu a dylanwadu

“Mae’r trydydd sector wedi bod yn ganolog erioed i newidiadau positif a gyda’r hinsawdd anodd sydd ohoni, mae rolau ein mudiadau amrywiol yn awr yn bwysicach nag erioed. Rhaid inni sefyll dros eraill a helpu ein gilydd i barhau i gyflawni.”

@CGGCCymru #gofod3

Jane Hutt, Dirprwy Prif Weinidog a Prif Chwip

I gyflawni nod y rhwydwaith, rydym yn cydweithio â phartneriaid allweddol eraill yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus, byd busnes, ymchwil a chyllidwyr.

Mae gennym bedair colofn o weithgaredd sy’n llunio’r hyn rydym yn ei gynnig, dyma’r pedair colofn:

  • Gwirfoddoli
  • Llywodraethu da
  • Cyllid cynaliadwy
  • Ymgysylltu a dylanwadu

Mae ein gwaith yn canolbwyntio’n fras ar y themâu cyffredin canlynol:

  • Gwybodaeth a chyngor
  • Dysgu a datblygu
  • Rhwydweithio a chyfathrebu
  • Siapio, dylanwadu ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chydnerthedd y sector
  • Codi proffil y sector
This site is registered on wpml.org as a development site.