Skip to content

Polisi Cwcis

Ynglŷn â’r polisi cwcis hwn

Mae’r Polisi Cwcis hwn yn egluro beth yw cwcis a sut rydym yn eu defnyddio, y mathau o gwcis rydym yn eu defnyddio, e.e. yr wybodaeth rydym yn ei chasglu drwy ddefnyddio cwcis a sut y defnyddir yr wybodaeth honno, a sut i reoli dewisiadau cwcis. Am ragor o fanylion ar sut rydym yn defnyddio, storio ac yn cadw eich data personol yn ddiogel, gweler ein Polisi Preifatrwydd.
Gallwch newid eich caniatâd neu ei dynnu yn ôl ar unrhyw adeg o’r Datganiad Cwcis ar ein gwefan.
Dysgwch fwy am bwy ydym, sut y gallwch gysylltu â ni a sut rydym yn prosesu data personol yn ein Polisi Preifatrwydd.
Mae eich caniatâd yn berthnasol i’r parthau canlynol: thirdsectorsupport.wales

Eich cyflwr presennol: Caniatâd wedi ei dderbyn. Rheoli eich caniatâd.

Beth yw cwcis?

Ffeiliau testun bach yw cwcis a ddefnyddir i storio darnau bach o wybodaeth. Cânt eu storio ar eich dyfais pan gaiff y wefan ei llwytho ar eich porwr. Mae’r cwcis hyn yn ein helpu ni i sicrhau bod y wefan yn gweithio’n iawn, ei bod yn fwy diogel a’i bod yn rhoi profiad gwell i’r defnyddiwr. Mae hefyd yn ein helpu i ddeall sut mae’r wefan yn perfformio a dadansoddi’r hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd angen ei wella.

Sut rydym yn defnyddio cwcis?

Fel y rhan fwyaf o wasanaethau ar-lein, mae ein gwefan yn defnyddio cwcis parti cyntaf a thrydydd parti at nifer o ddibenion. Mae angen y cwcis parti cyntaf yn bennaf er mwyn i’r wefan weithio’r ffordd gywir, ac nid ydynt yn casglu unrhyw ddata y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod yn bersonol.

Prif ddibenion y cwcis trydydd parti a ddefnyddir ar ein gwefan yw deall sut mae’r wefan yn perfformio, sut rydych yn rhyngweithio â’n gwefan, cadw ein gwasanaethau yn ddiogel, darparu hysbysebion sy’n berthnasol i chi, ac yn gyffredinol, rhoi profiad defnyddiwr gwell i chi a’ch helpu i gyflymu eich rhyngweithiadau â’n gwefan yn y dyfodol.

Pa fathau o gwcis ydym yn eu defnyddio?

Hanfodol: Mae rhai cwcis yn hanfodol i’ch galluogi i brofi swyddogaethau llawn ein safle. Maen nhw’n caniatáu i ni gynnal sesiynau defnyddwyr ac atal unrhyw fygythiadau diogelwch. Nid ydynt yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol. Er enghraifft, mae’r cwcis hyn yn caniatáu i chi fewngofnodi i’ch cyfrif ac ychwanegu cynnyrch i’ch basged, a thalu amdanynt yn ddiogel.
Ystadegau: Mae’r cwcis hyn yn storio gwybodaeth fel nifer yr ymwelwyr i’r wefan, nifer yr ymwelwyr unigryw, pa dudalennau o’r wefan y mae pobl wedi ymweld â nhw, ffynhonnell yr ymweliad ac ati. Mae data o’r fath yn ein helpu ni i ddeall a dadansoddi pa mor dda mae’r wefan yn perfformio a ble y mae angen ei gwella.

Marchnata: Mae ein gwefan yn arddangos hysbysebion. Defnyddir y cwcis hyn i bersonoli’r hysbysebion rydym yn eu dangos i chi fel eu bod yn ystyrlon i chi. Mae’r cwcis hyn yn ein helpu hefyd i gadw golwg ar effeithlonrwydd yr ymgyrchoedd hysbysebu hyn.
Gall yr wybodaeth sy’n cael ei storio yn y cwcis hyn gael ei defnyddio hefyd gan ddarparwyr hysbysebion y trydydd parti i ddangos hysbysebion i chi ar wefannau eraill ar y porwr hefyd.

Swyddogaethol: Y rhain yw’r cwcis sy’n helpu swyddogaethau penodol ar ein gwefan nad ydynt yn hanfodol. Mae’r swyddogaethau hyn yn cynnwys ymwreiddio cynnwys fel fideos neu rannu cynnwys y wefan ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Dewisiadau: Mae’r cwcis hyn yn ein helpu i storio eich gosodiadau a’ch dewisiadau pori, fel dewisiadau iaith, er mwyn i chi gael profiad gwell ac effeithlon pan fyddwch chi’n ymweld â’r safle yn y dyfodol.

Mae’r rhestr isod yn nodi’r cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan.

Sut gallaf reoli’r dewisiadau cwci?

Os byddwch yn penderfynu newid eich dewisiadau yn ddiweddarach yn ystod eich sesiwn bori, gallwch chi glicio ar y tab “Privacy & Cookie Policy” (Polisi Preifatrwydd a Chwcis) ar eich sgrin. Bydd hwn yn dangos yr hysbysiad caniatâd eto, a fydd yn eich galluogi i newid eich dewisiadau neu dynnu eich caniatâd yn ôl yn gyfan gwbl.
Ynghyd â hyn, mae gan wahanol borwyr ddulliau gwahanol o rwystro a dileu cwcis a ddefnyddir gan wefannau. Gallwch newid gosodiadau eich porwr i rwystro/dileu y cwcis. I gael rhagor o wybodaeth am sut i reoli a dileu cwcis, ewch i wikipedia.orgwww.allaboutcookies.org (Saesneg yn unig).

I optio allan o gael eich dilyn gan ‘Google Analytics’ ar draws pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout (Saesneg yn unig)

This site is registered on wpml.org as a development site.